Siop Siafins
Oherwydd bod gen i gysylltiadau teuluol ac un o'r ysgolion dw i'n gadael gohebu ynghylch helyntion ysgolion Treganna yng Nghaerdydd i'm cydweithwyr. Ond mae blogio ychydig yn ormod o demtasiwn i mi heddiw gyda'r troeon trwstan diweddaraf yn ymylu ar fod yn ffars.
Y cefnidir yn gyntaf. Dechreuodd yr helynt ar ôl i gynghorydd Llafur (a gweithiwr etholaeth i Rhodri Morgan) Ramesh Patel ddisgrifio cynllun i gau Ysgol Gynradd Lansdowne a defnyddio'r adeiladu i ehangu un o'r ysgolion Cymraeg lleol fel "ethnic cleansing". Er bod rhai wedi cyhuddo'r BBC o lusgo traed ar y stori yma mae'n werth nodi wrth fynd heibio mai ar y blog yma yr ymddangosodd hi gyntaf. Ar ôl i Neil McEvoy, arweinydd grŵp Plaid Cymru ar gyngor Caerdydd, wneud cwyn swyddogol i'r cyngor fe ymddiheurodd Cyng. Patel am ei union eiriau- ond nid am sylwedd ei sylwadau. Mae'r heddlu hefyd yn cynnal ymchwiliad yn sgil cwyn gan riant.
Ddoe yn y cynulliad, heb enwi Ysgol Lansdowne, awgrymodd Rhodri Morgan ei fod yn cytuno y byddai cau'r ysgol Saesneg yn arwain at "bolareiddio ethnig". Yn sgil hynny y sylwadau hynny cafwyd rhagor o gwynion, y tro yma gan y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru.
Mae'r cwynion y ddwy blaid yn wahanol i'w gilydd. Cyhuddo'r Prif Weinidog o dorri'r cytundeb rhwng y pleidiau i beidio defnyddio hil at ddibenion gwleidyddol mae Cyng. McEvoy a Phlaid Cymru. Y Comisiwn Cydraddoldeb wnaeth lunio'r cytundeb hwnnw ac mae Plaid Cymru wedi galw ar y Comisiwn i ymchwilio i sylwadau'r Prif Weinidog.
Y prynhawn yma fe benderfynodd Rhodri ysgrifennu at y comisiwn hefyd i ofyn am ymchwiliad i gynllun y cyngor i gau'r ysgol. Gallai Rhodri fod ar dir peryglus yn fan hyn- yr union dir oedd yn destun cwyn y Ceidwadwyr.
Mae'r wrthblaid yn llygaid ei lle wrth ddweud bod gan lywodraeth y cynulliad rôl statudol farnwrol yn y saga. Os ydy'r cyngor yn bwrw ymlaen a'r cynlluniau fe fyddai unrhyw apêl yn fater i'r gweinidog addysg. Mae'r Torïaid yn amau bod Rhodri wedi torri'r rheolau a llurgunio'r broses trwy ragfarnu'r sefyllfa.
Yr hyn sy'n cymhlethu pethau yw mai Rhodri yw'r aelod cynulliad lleol. Cymerwyd gofal arbennig felly i sicrhâi mai o'r Blaid Lafur a nid o'r llywodraeth y daeth ei ddatganiad heddiw. Roedd hi'n gamgymeriad felly bod y datganiad hwnnw a'r pennawd "First Minister requests Equality Commision ruling on school closure". Daeth cyweiriad o fewn munudau "Rhodri was speaking in his capacity as AM for Cardiff North". Gorllewin, nid Gogledd Caerdydd yw etholaeth Rhodri, wrth gwrs!
Camgymeriadau diniwed neu arwyddion o banig? Mae'r naill ar llall yn bosib ond gallai'r stori yma fod yn bwysicach ac yn llai plwyfol nac oedd hi'n ymddangos ar yr olwg gyntaf.
SylwadauAnfon sylw
Credaf nad yw'r BBC wedi rhoi digon o sylw i'r stori hon. Mae penderfyniad bwriadol y Blaid Lafur i droi hawl rhieni i addysg Gymraeg yn fater hil yn ddifrifol tu hwnt. Dylai gael mwy o sylw ar y BBC - trwy gyfrwng y Saesneg yn ogystal a'r Gymraeg.
Mae addysg Gymraeg yn amlddiwylliannol mewn un ffordd amlwg nad yw'n wir am addysg gyfrwng Saesneg - mae'n hyrwyddo bodolaeth dwy iaith yn hytrach nag un. At hyn hefyd, mae addysg Gymraeg yn amlethnig. Y cwestiwn ydy sut i'w gwneud yn fwy amlethnig. Y ffordd orau ydy darparu adnoddau teilwng ar gyfer addysg Gymraeg, a hynny mewn ardaloedd lle bo canran lleiafrifoedd ethnig yn gymharol uchel.
Byddai symud Ysgol Treganna i safle Ysgol Lansdowne yn bodloni'r amodau uchod.
Cwestiwn : I pa raddau y gwnaeth Rhodri Morgan gefnogi addysg Gymraeg gyda'i plant ei hun ?
Ateb: Dim cymaint ag Alun Michael.