Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Y lle i fod

Vaughan Roderick | 19:42, Dydd Llun, 4 Awst 2008

Mae 'na sawl llwyth yr Eisteddfod, pobol y Pafiliwn, y Babell Lên, hyd yn oed y bobol hynny fel fy nghyd-olygydd Betsan Powys sy'n treilio eu diwrnod yn cerdded yn ôl ac ymlaen rhwng bws Cyw a phabell Sam Tan mewn ymdrech i gadw eu plant yn dawel.

Yn bersonol dw i'n aelod o'r llwyth lleiaf- selogion Pabell y Cymdeithasau, y babell fwyaf di-nod a mwyaf diddorol ar faes y Brifwyl. Yn fan hyn mae cynulleidfaoedd (bychan gan amlaf) yn cael y fraint o fod ymhlith y cyntaf i glywed am rai o'r syniadau ac ymgyrchoedd a allai fod ar wefusau pawb yn hwyr neu'n hwyrach.

Wrth gerdded draw i'r babell heddiw galwais heibio yn stondin Cymdeithas yr Iaith ar gyfer lansiad llyfr Gwion Lewis "Hawl i'r Gymraeg". Dw i ddim wedi darllen y gyfrol eto ond yn ôl rheiny sydd wedi mae'n waith o bwys. Yn y dorf ar gyfer y lansiad roedd y Gweinidog Diwylliant newydd Alun Ffred Jones. Mae hynny'n arwydd o'r amserau efallai ond awgrymais wrth un o'i swyddogion nad oedd y Gweinidog eto yn deall ei rôl yn y steddfod. Nid ei le fe yw sefyll yn y dorf y tu fas i babell y Gymdeithas, ei rôl e yw cerdded o gwmpas y maes gyda Dafydd Morgan Lewis yn gwaeddi yn ei glust trwy fegaffon. Gwenodd y swyddog yn serchus ataf. "Arhosa tan flwyddyn nesaf!" meddai.

Ta beth draw ym Mhabell y Cymdeithasau roedd Simon Brooks yn traddodi darlith goffa Syr TH Parry-Williams ar hanes y Gymraeg yn ardal dociau Caerdydd. Gan mai dod i Gaerdydd i weithio yn y dociau y gwnaeth teulu Mam rhai cenedlaethau yn ôl roeddwn i eisiau gweld i ba raddau yr oedd sylwadau Simon yn cyd-fynd a'i hatgofion hi. Wrth gwrs Simon yw Simon ac roedd e'n benderfynol o fod yn brofoclyd. Cynhyrchodd ystadegau yn awgrymu bod y Gymraeg wedi goroesi yn well yn yr hen Tiger Bay aml-hiliol nac yn rhannau eraill o'r ddinas. Ei ddadl oedd oedd bod hi'n haws i leiafrif gadw ei hunaniaeth ymhlith llu o leiafrifoedd eraill nac yw hi fel un garfan fach yng nghanol grŵp mwyafrifol. Nododd bod y Cymry sydd wedi heidio i'r ddinas yn ystod y degawdau diwethaf hefyd, ar y cyfan, wedi dewis ymsefydlu yn yr ardaloedd mwyaf aml-ddiwylliannol, llefydd fel Treganna, Glanyrafon a'r Grenj. Tra bod hynny'n ffeithiol gywir dwi'n amau bod 'na ffactorau eraill ar waith yn fan hyn. Serch hynny mae 'na ddigon i gnoi cil drosti.

Cyfarfod wedi ei drefnu gan yr Ymgyrch Senedd i Gymru ddaeth nesaf gyda Elinor Burnham a Dylan Jones Evans yn dweud eu dweud. O'r ddwy araith un Dylan oedd y fwyaf sylweddol- dyna i chi syrpreis! Mae'n biti nad yw trafodion cyfarfodydd fel hwn yn cael eu cyhoeddi oherwydd roedd araith Dylan yn un anodd i grynhoi mewn ychydig frawddegau. Fe wnaeth un sylw trawiadol iawn sef nad oedd y ffaith bod gan Gymru lai o bwerau na rhan arall o'r Deyrnas Unedig yn unrhyw fath o ddadl dros gynyddu pwerau'r cynulliad. Roedd yn rhaid cyflwyno'r achos hwnnw ar sail ei rinweddau ei hun. Awgrymodd hefyd bod yr "enfys" o hyd yn agos at ei galon ac y byddai 'na lywodraeth ddi-Lafur yng Nghaerdydd yn hwyr neu'n hwyrach.

Cyn i hynny ddigwydd (os ddigwyddiff hi o gwbwl) mae'n debyg y bydd gan Gymru un Prif Weinidog Llafur arall a mwy na thebyg Carwyn Jones fydd hwnnw. Mae'n goblyn o beth mai dim ond rhyw bymtheg o bobol oedd yn y gynulleidfa i wrando ar araith feddylgar ganddo ynglŷn â dyfodol y Gymraeg. Hwn oedd eich cyfle i ddylanwadu ar y gwr â allai fod yn arwain Llywodraeth Cymru ymhen deunaw mis ac fe wnaethoch chi ei golli! Canolbwyntio ar ffawd y Gymraeg yn ardal y glo caled wnaeth Carwyn. Yn yr ardal hwnnw mae gwreiddiau hanner arall fy nheulu (fel mae'n digwydd fy nhad-cu wnaeth briodi taid a nain Carwyn) felly dwi'n rhannu ei bryderon ynglŷn â sefyllfa'r iaith yn Nyffryn Aman a Chwm Tawe. Wrth sgwrsio a fe ar ôl y ddarlith fe wnes i nodi'r eironi bod etholwyr yr ardaloedd hynny yn troi at Blaid Cymru ar yr union adeg y mae'n nhw'n cefni ar y Gymraeg. Cytunodd Carwyn gan gyfaddef ei fod yn defnyddio'r union ddadl honno yn erbyn rheiny yn y Blaid Lafur sy'n credu bod cefnogaeth i'r Gymraeg yn bwydo cenedlaetholdeb.

Dyna i chi flas ar un diwrnod ym Mhabell y Cymdeithasau. Pam na ddewch chi draw?

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.