We're fflyin ddy fflag....
Dw i'n cyffwrdd fy nghap i Peter Cox am dynnu sylw at y stori yma. Mae'r llywodraeth yn Llundain yn paratoi cynlluniau a allai orfodi i adeiladau'r llywodraeth yng Nghymru hedfan Jac yr Undeb rownd y flwyddyn.
Yn ôl y Papur Gwyrdd diweddar ar lywodraethi Prydain "Symbols can help to embody a national culture and citizenship. The Union Flag is one of the most recognisable symbols of the UK". Fe fyddai hedfan y faner felly yn fodd i gryfhau cenedligrwydd y DU
Fyddai'r rheolau ddim yn cynnwys adeiladau sydd o dan ofal y cynulliad- dim Jac yr Undeb ar y Senedd felly ond fe allai olygu y byddai'n rhaid i lefydd fel y DVLA yn Nhreforys, y swyddfeydd passport yng Nghasnewydd neu hyd yn oed canolfannau gwaith hedfan y faner. Gellir darllen dogfen ymgynghorol y DCMS yn fan hyn neu wylio Scooch yn canu "Flying the flag" yn fan hyn.
Os nad yw'r syniad yn apelio atoch chi mae Peter Cox wedi cychwyn deiseb ar wefan Downing Street yn gwrthwynebu'r syniad
SylwadauAnfon sylw
Mwy o genedlaetholdeb Brydeinig gan y Blaid Lafur ... ac mae ganddynt y wyneb i alw Plaid Cymru yn 'genedlaetholwyr'.
Pryd mae AC am ddechrau galw'r Blaid Lafur yn genedlaetholwyr Prydeinig? Dyna'r disgrifiad cywir ohonynt.
Beth oedd y ddihareb yn y Beible am y Brych yn llygedyn dy ffrind ... ? Fydd rhaid i mi fynd i Beibl.net, Vaughan!