Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Lincs

Vaughan Roderick | 15:36, Dydd Mercher, 25 Gorffennaf 2007

I'r rheiny ohonom sy'n becso am y Gymraeg mae hi wastad yn bleser darllen am iaith leiafrifol arall sy'n llwyddo adfywio. Dw i'n ddiolchgar i “o bell” am dynnu fy sylw at y stori yma o Seland Newydd. Mae'n ymddangos ar ôl blynyddoedd o golli tir mae'r iaith frodorol “te reo” ar gynnydd.

Anaml iaw di i'n sgwennu tudalen “lincs” heb gynnwys cyfeiriad at blog Paul Flynn. Ydych chi'n cofio'r stori yma am Chris Bryant a chyhoeddiadau dwyieithog mewn gorsafoedd rheilffordd? Fe gefnogwyd Chris gan Paul Murphy a Don Touhig. Mae ymateb Paul yn berl.

"Not that this one is anything to do with stations. It's the defeated anti Red-Green coalition MPs soothing the hurt of their bloody noses by putting the boot into the Welsh Language. A new Welsh Language Act is one of the coalition's aims. Sad really that our two Gwent ex-ministers and papal knights cannot find anything more useful to fill their lives. Cheer up, Don and Paul and return to serious politics."

Un o bleserau bach fy mywyd yw dilyn gwleidyddiaeth rhyfedd a rhyfeddol yr Unol Daleithiau. Mae hwn yn gyfaddefiad trist ond dw i wrth fy modd yn gwylio'r hysbysebion “dros y top” sy'n nodwedd'r ymgyrchoedd. Mae rhain o'r ras i ddewis llywodraethwr yn Louisiana yn glasuron. Diddorol yw nodi mai slogan y Democratiad yw "Make a difference". Oedd Plaid Cymru wedi cofrestri'r hawlfraint, tybed?

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.