Lincs
Dyma sut mae colli swydd fel cyflwynydd newyddion. Ni i gyd yn teimlo fel 'na weithiau!
Mae nifer o flogs Saesneg yn cystadlu i wisgo mantell y diweddar Blammerbell. Yn eu plith mae "Seneddwr" ond mae'n ymddangos i mi (a barnu o'r sylwadau sy'n cael eu gadael) bod nifer o ffans Ciaran wedi mudo i flog Saesneg Sanddef.
Dw i hefyd yn hoff iawn o flog "Normal Mouth" sy'n cynnwys erthyglau dadansoddol hwy na'r arfer ynglŷn â gwleidyddiaeth Cymru. Mae ei bost diweddara "Blair by numbers" yn hynod ddifyr.
Mae Maes-e yn cynnal pleidlais i ddewis y blogs Cymraeg gorau. Diolch i bawb sydd wed fy enwebu. Os ydych chi'n newydd i fyd y blogs mae'n werth gwybod bod hi'n bosib darllen y blogs Cymraeg i gyd ar y Blogiadur.
SylwadauAnfon sylw
Mae Ordo yn croesawi Cymraeg ar ei flog. Fel Blamerbell. Dau yn eitha tebyg. Does dim Cymraeg ar Seneddwr a nid yw'n dangos bod eisiau cymerid lle Blamers.
Mae tan ar "Independent Wales" a "Peter Black" yn cael ei groeni.
Llefydd creulon yw'r blogs.