Barti Binc
Beth fyddai I.D Hooson yn dweud?
Mae na ddau lyfr newydd yn ymddangos yn adrodd hanes Bartholemew Roberts, y morwr tal a'r chwerthiniad iach. Mae un ohonynt yn ymddangos yn weddol traddodiadol. Fe fydd y llall yn sicr o achosi cynnwrf yng Ngasnewy' bach.
Yn ôl Richard Sanders awdur “If a pirate I must be...” roedd Barti a'i fôr-ladron yn hoyw ac yn cydfyw fel parau priod. Gellir darllen adolygiad y Spectator o'r llyfr yn fan hyn.
SylwadauAnfon sylw
Reit, na un arall i'r 'reading pile' - mae'n swnio fel dylai Johnny Depp ddysgu Cymraeg am y ffilm nesaf yn y gyfres 'Pirates of the Caribbean..'
https://uk.youtube.com/watch?v=DhJTuicbCm4
Mae Gethin ar Youtube wrth ei fodd....
Roedd y History channel yma yn America yn diweddar efo rhaglen dogfen (2 hour special!) am Mor ladron. Allan o'r 5 person roeddynt yn son roedd 3 yn Cymry. Beth mae hynny dweud amdanom ni fel pobol!!
Rwy'n cofio darllen fod ar un adeg....pan oedd mor-ladrata yn ei anterth......fod tua 60% o for ladron yn Gymry!
....Mi fyddai'n diddorol petai rhywun yn gwneud astudiaeth o gefndiroedd y mor ladron Cymreig 'ma. Roedd Barti yn ddyn crefyddol rwy'n meddwl. Sut oedd yn medru cyfiawnhau mor ladrata. Rwy'n cofio darllen un o lyfrau Daniel Owen lle'r oedd e'n honni fod ddim un problem gan y Cymry i 'botchian'. Y rheswm: Doedd dim byd yn Beibl yn dweud fod 'potchian' yn bechadurus.