Stori ddifyr yn "Golwg"
Mae'n werth darllen "Golwg" yr wythnos hon. Mae'n cynnwys stori ddifyr iawn am Blaid Cymru yn y Gogledd. Fe fydd yn rhaid i chi ddarllen y cylchgrawn i gael y stori gyfan ond dyma ragflas.
Mae’r chwerwedd wedi methiant Dafydd Wigley i ddychwelyd i’r Cynulliad wedi ffrwydro gydag un cyn-ymgeisydd i Blaid Cymru yn galw ar Aelod Cynulliad o’i blaid ei hun i ildio ei sedd. Yn ôl y cyn-ymgeisydd, sydd am aros yn ddienw, mae Janet Ryder AC wedi “colli hyder” mwyafrif ymgeiswyr Plaid Cymru yn y Gogledd yn dilyn ymgyrch etholiad eleni.
“Mae Janet Ryder wedi colli cefnogaeth aelodaeth y blaid yn ogystal â’r ymgeiswyr etholaeth”, meddai’r cyn-ymgeisydd, a safodd mewn sedd yn y Gogledd. “Mae ei hymddygiad tuag at weithwyr y Blaid dros yr 18 mis diwethaf yn golygu nad oes ryw lawer o hyder ynddi ymhlith rhengoedd uwch y Blaid, chwaith."
Yn y cyfamser mae dau flog Plaid Cymru sef hwn a hwn yn awgrymu y dylai Janet Ryder ildio'i sedd i Dafydd Wigley.
SylwadauAnfon sylw
Codi pais ar ôl pisho yw hyn! Doedd dim bai ar Janet Ryder, os oedd bai ar rywyn bai ar bolisi'r Blaid ydoedd. Roedd Dafydd Wigely ei hun wedi cefnogi'r polisi o roi merched ar frig y rhestr - cofiwch hynny. Cwbwl hurt ac anymarferol yw galw am ymddiswyddiad Janet, y ffordd adeiladol o brotestio yw rhoi cynnig gerbron cynhadledd nesaf y Blaid in ddiddymu'r polisi merched yn gyntaf.
Oni fyddai Ryder-Wigley 'swap' yn gosod cynsail problematig? Tra ei fod yn ddigon amlwg i bresenoldeb Wigley gynyddu'r bleidlais i'r Blaid, gallwn ni ddim profi hynny. Yn y dyfodol gellir dychmygu pleidiau yn rhoi ffigwr poblogaidd (nad yw am fod yn AC) ar ben y rhestr er mwyn denu cefnogwyr gan dderbyn y bydd y ffigwr hwnnw yn sefyll i lawr i wneud lle i rhywun arall wedi'r etholiad.
Byddai'n adlewyrchu'n wael iawn ar PC pe bai raid i Janet Ryder ildio ei sedd. Nhw ddyfeisiodd y polisi hwn a hyd iddio gael ei newid yn swyddogol, onid oes rheidrwydd arnynt i lynu wrtho. Fel arall, y cwestiwn cyntaf a gaiff unrhyw arweinydd PC yn y dyfodol yw sut y gall y cyhoeed gredu mewn unrhyw bolisi a gynigir ganddoch pan nad oeddech chi'n credu mewn polisi a gafodd ei basio'n fewnol gan eich plaid eich hun???
Mi ddylsa y Blaid gefnogi Janet Ryder, mae hi wedi ei hethol yn berffaith deg, yn ol rheolau y Blaid. Roedd hi'n gwbwl amlwg fod Dafydd Wigley ddim yn mynd i gael ei ethol oherwydd cryfder y Blaid yn etholaeth ranbarthol y Gogledd. Dydy y ffrae yma ddim yn mynd i helpu y Blaid i lywodraethu, a weithiau dwi'n meddwl ydy'n nhw eisiau llywodraethu? Wedi'r cyfan hawdd ydy bod yn wrthblaid ynde.