Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Lincs

Vaughan Roderick | 09:57, Dydd Mercher, 30 Mai 2007

Wrth i gymaint o flogs gwleidyddol Cymraeg a Chymreig gau yn sgil yr etholiad (hwyl fawr i Chanticleer, Ian Titherington, Alun Pugh ac eraill) mae'n bleser i groesawi un newydd sef Amanwy. Blog Saesneg yw hwn, hyd yn hyn, ond dw i'n synhwyro bod yr awdur yn Gymro Cymraeg.

Mae na ddigon o flogs yn dal i fynd, wrth reswm. Mae Rhys Llwyd wedi penderfynnu cynnal polau piniwn wythnosol tra bod Huw Waters yn diawlio'r system gynllunio a hap-adeiladu. Yn wahanol i rai dyw Glyn Davies ddim yn pwdu! Mae'n dal i ganlyn yr enfys.

Yn yr Unol Daliethiau mae amgueddfa newydd wedi agor yn "profi" bod y byd wedi ei greu chwe mil o flynyddoedd yn ol ac mae'r Daily Kos yn "dathlu'r" digwydddiad!

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.