Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Blogio

Vaughan Roderick | 07:38, Dydd Mercher, 9 Mai 2007

Mae 'na ddadl ddifyr iawn yn digwydd ar Blamerbell ynglŷn â gwerth blogio yn sgil sylwadau gan Leighton Andrews yn difrïo’r cyfrwng.

Dw i ddim am wneud sylw'r naill ffordd na'r llall ond gan ein bod wedi bod yn adolygu perfformiad y blog hwn wrth gysidro ei ddyfodol fe wnâi rannu ychydig o ffigyrau â chi.

Mae'n debyg fy mod yn rhif 170,452 yn siart Technorati o'r blogs mwyaf poblogaidd. Dw i'n curo Russell Brand (412,305) ond yn colli mas i Chris Moyles (164,131). Yn ystod tair wythnos gyntaf ei fodolaeth roedd y blog yn denu rhwng mil a dwy fil o ddarllenwyr y dydd, niferoedd digon parchus. Diolch i chi gyd. Fe wnâi gario ymlaen felly.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 14:22 ar 9 Mai 2007, ysgrifennodd Bedd Gelert:

    "Think Local, Act Global" felly ?

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.