Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

B B C - Bwyta Brecwast Cynnar

Categorïau:

Hywel Gwynfryn | 11:31, Dydd Gwener, 9 Mawrth 2012

Chwarter i wyth y bore, a dyna lle 'roeddwn i yn dosbarthu sudd oren, a thost iddisgyblion Ysgol Banc y Felin, ar gyrion Caerfyrddin.

Mae'r Clwb Brecwast yn cynnig bwyd i blant sy'n gorfod dod yn gynnar i'r ysgol oherwydd fod ei rhieni yn teithio i'w gwaith, ac mae'r Ysgol wedi ennill tystysgrif am y Clwb Brecwast gorau yn yr ardal. Rhywbeth y mae'r Penaeth Gwyneth Stephens yn ymfalchio ynddo.

Ysgol Bancyfelin

O gwmpas yr ystafell frecwast mae na luniau o gyn ddisgyblion enwog Banc y Felin. Mae'n rhyfeddol bod ysgol cymharol fechan wedi magu cymaint o chwaraewyr rygbi rhyngwladol - Lynn 'Cowboi' Davies chwaraeod i Gymru yn y pumdegau, Delme Thomas, Jonathan Davies, a Mike Phillips.

Yn ôl sawl sgwrs gefais i gyda rhai o'r bechgyn, mae na fwy nag un yn gobeithio fod bwyta brecwast da yn sicrhau y bydda' nhw yn efelychu campau eu harwyr ar y maes rygbi rhyw ddydd.

Wedi galw heibio i Ysbyty Glangwili, lle mae'r gwasaneth radio yn dathlu ei benblwydd eleni yn ddeugain oed, fe es i allan am dro i gefn gwlad Sir Gaerfyrddin i fynwenta, yng nghmwni Towyn Jones. A chael awr ddifyr yn ei gwmni ym mynwent eglwys Penboyr.

Mynwent Penboyr

Cofiwch fod Nia Roberts ynawyddus i glywed gennych chi, os oes na fynwent ddiddorol yn eich ardal chi.

Fe ddaeth fy nhaith i ben yn nhre Caerfyrddon, a chartre enwog Theatr y Lyric, lle 'roedd TheatrNa Nog, yn perfformio rhai o chwedlau Aesop, ac ar ôl cael sgwrs efo'r actorion , fe fues i'n crwydro'r theatr yng nghmni Nick Stevenson. Fe wariwyd dwy filiwn o bunnau ar y theatr yn ddiweddar ac mae hyn yn golygu y bydd cynyrchiadau cyffrous iawn i'w gweld ar lwyfan y Lyric yn y dyfodol agos.

Gwefan Theatrau Sir Gâr

Mwy o’r blog hwn…

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.