Help / Cymorth

Archifau Mawrth 2011

Rhyfeddodau Cymru a'r Cylch

Categorïau:

Hywel Gwynfryn | 14:42, Dydd Iau, 31 Mawrth 2011

Sylwadau (0)

Yn ôl yr hen rigwm, mae 'na saith o ryfeddodau yng Nghymru - wyth os 'da chi'n cynnwys Bryn Terfel.

Dyma nhw: Pistyll Rhaeadr, Yr Wyddfa, Coed Ywen Owrtyn, Ffynhonnau Treffynnon, Pont Llangollen, Clychau Gresffordd a chlochdy eglwys Wrecsam.


Eglwys Sant Silyn, Wrecsam

Ac ar ymweliad a Wrecsam yn ddiweddar fe es i draw i Eglwys Sant Silyn i weld yr eglwys a'r tŵr. Hon ydi'r eglwys fwya' yng Nghymru, ac fe ddywedir fod cynllun un o dyrrau Tŷ'r Cyffredin wedi ei sylfaenu ar gynllun tŵr yr eglwys.


Phill Phillips tu allan i Westy'r Wynnstay



Phill Phillips ydi'r dyn sy'n gwybod hanes Wrecsam ers y dyddiau cynnar, a dwy flynedd yn ôl, fe enillodd o wobr arbennig Croeso Cymru am roi'r dre ar y map.

Tu ôl iddo yn y llun mae gwesty'r Wynnstay lle sefydlwyd Cymdeithas Pêl-droed Cymru ym 1876, ac roedd Dylan Jones yno i gofnodi'r digwyddiad hanesyddol i raglen 'Ar y Marc' ar Radio Cymru!

'Dwi isio i chi ddychmygu rŵan ei bod hi'n ddydd Iau'r Eisteddfod. 'Da chi 'di bod yn y pafiliwn ers dydd Llun, mae'r mab wedi cystadlu, ac wedi cael cam, a 'da chi wedi cerdded rownd y pafiliwn tua ugain o weithiau.

Mae hi'n amser am newid! Felly beth am fynd i weld Canolfan Treftadaeth y Bers, sydd ryw hanner milltir o'r cae?

Gareth Vaughan Williams yng Nghanolfan Treftadaeth y Bers

Gareth Vaughan Williams aeth a fi o gwmpas i weld y creiriau diddorol sy'n adrodd hanes diwydiannol y cylch, ac erbyn wythnos gyntaf Awst, fe fydd 'na arddangosfa go arbennig yn y ganolfan yn adrodd hanes y diwydiant glo a thrychineb Pwll Glo Gresffordd, lle collodd dros ddau gant o lowyr eu bywydau.

Cyn dychwelyd i Gaerdydd fe alwais heibio Wyn Thomas, sy'n hogyn o'r Rhos ond bellach yn byw yng Nghoedpoeth, ac yn gweithio fel ciropodydd, (neu 'co cyrn' fel basa cofis dre yn ei alw fo).

Wyn Thomas wrth y delyn

Mae cerddoriaeth wedi bod yn rhan annatod o fywyd Wyn erioed, a rhyw bymtheng mlynedd yn ôl fe brynodd delyn deires oherwydd ei fod yn 'ffan' o Robin Huw Bowen.

Bellach mae o'n aelod o'r grŵp gwerin Rhes Ganol, ac yn cyfeilio i ddawnswyr Bro Cefni, ar Ynys Môn. Ydi, mae hi'n bell i deithio o Goedpoeth i Sir Fôn, ond ddim mor bell â hynny mewn awyren.

'Hedfan, ydi'r hobi' medda Wyn
'Dwi wrth fy modd yn codi o faes awyr y Trallwng a glanio yn Ninas Dinlle. Cael tamed o frecwast ac wedyn hedfan adre.'

Wyn Tomos. Dyn sydd a'i ben yn y cymylau, weithiau, ond ei draed ar y ddaear bob amser!

Ebostiwch fi gyda'ch straeon hywel@bbc.co.uk

O Lanon i D‏ŷ Ddewi

Categorïau:

Hywel Gwynfryn | 11:01, Dydd Mercher, 2 Mawrth 2011

Sylwadau (0)

'Gwnewch y pethau bychain'. Dyna gyfarwyddyd Dewi Sant.

Felly dyna be wnes i, mynd ar bererindod o Lanon i Dŷ Dewi, ar Fawrth 1af er mwyn dathlu gŵyl ein nawddsant.

Lloyd Jones oedd fy nhywysydd ar y daith, ac ar lan y môr yn Llanon fe fu Carol Jones yn adrodd hanes sut y cafodd Dewi ei fagu gan ei fam Non.

Hanes y mae hi'n hen gyfarwydd ag o, gan ei bod hi wedi bod yn athrawes tan yn ddiweddar yn ysgol gynradd Penuwch.




Ymlaen wedyn, o Lanon i Landdewibrefi wedyn i gyfarfod plant yr ysgol leol, yn eu gwisgoedd Cymreig, Yn Llanddewi, yn ôl yr hanes, tra 'roedd Dewi yn pregethu, fe gododd y tir o dan ei draed, er mwyn i'r dorf gael ei weld yn well.

Plant Ysgol Gynradd Llanddewibrefi ar ddydd Gŵyl Dewi

Mae'r ficer presennol Dyfrig Evans ar fin gadael yr ardal gan ei fod o wedi cael ei benodi yn ficer eglwys yng Nghaerdydd.
Enw'r eglwys? Yn addas iawn - Eglwys Dewi Sant!

Tŷ Ddewi, oedd diwedd y daith i ni, ac erbyn i ni gyrraedd 'roedd Nan George a'i ffrindiau wedi paratoi te a sgons i ni yn Siop y Bobol.

'Roedd y Canon, Dorian Davies, eisoes wedi manteisio ar groeso Nan, ac yn sefyll yng nghwmni, Dafydd Aeron, yn mwynhau sconsan a phaned.

Efallai bod enw Dafydd Aeron yn gyfarwydd i chi, os 'da chi'n un o ffans Panto Felin Fach.
'Roedd o a Geraint Lloyd yn ddau o sêr y panto - Geraint yn chwarae rhan y cipar a Dafydd Aeron fel ficer.

Ond daeth tro ar fyd, ac mae Dafydd wedi penderfynu troi o fyd y ddrama i'r eglwys, ac ym mis Awst fe fydd yn cael ei ordeinio yn ficer Tŷ Ddewi. Pob dymuniad da i Dafydd, a diolch i bobol Llanon, Llanddewi a Thŷ Ddewi am eu croeso.

I'r Gogledd y bydda i'n teithio yr wythnos nesa i Wrecsam, cartre' yr
Eisteddfod Genedlaethol eleni.

A chofiwch, mae'r fan a finna, yn barod i deithio i unrhyw fan, dim ond i chi anfon e-bost at hywel@bbc.co.uk

Cerfio a Chrafu'r Croen

Categorïau:

Hywel Gwynfryn | 10:09, Dydd Mercher, 2 Mawrth 2011

Sylwadau (0)

Cyn i mi esbonio arwyddocâd y geiriau uchod, dowch i mi longyfarch Côr Meibion Bro Aled ar ddathlu 35 mlynedd o ganu di-stop.

Dowch i ni hefyd longyfarch Angharad Ellis o Gwmpennar, arweinydd diweddara'r côr, am ei dull meistrolgar o gadw trefn ar griw mor anystywallt, yn enwedig Berwyn Williams oedd yno ar y dechrau, ac sydd erbyn hyn, wedi cael ei glywed yn canu mewn tiwn, unwaith neu ddwy - o leia' dyna mae ei elynion o blith y baswyr yn ei ddweud!

Berwyn fu'n ddigon caredig yn ystod yr ymarfer i ddangos holl gynnyrch yr Eisteddfod y Tai, sy'n rhoi cyfle i ddarpar feirdd a llenorion brofi pa mor anodd ydi barddoni a llenydda.

Erbyn hyn fe ddyle chi sylweddoli fod 'na dipyn o dynnu coes ymhlith aelodau'r côr, a finnau'n rhan o'r hwyl yn un o'r ymarferion wythnosol yn Llansannan yn ddiweddar.

Cyn gadael y pentref, fe alwais i heibio Richard Vernon a'i wraig Noriko, tu allan i'r adeilad fydd yn gartref iddyn nhw cyn bo hir, sef hen gapel Hiraethog.

Mae Noriko yn hanu o bentref bychan tu allan i Japan ac yn teimlo'n gartrefol medda hi, yn Llansannan, yn enwedig gan ei bod hi bellach wedi dysgu Cymraeg.

Cerddor ydi Richard sy'n rhannu ei amser rhwng y stiwdios yn Llundain, llwyfannau cyngerdd yn Ewrop, a'r capel yn Llansannan, lle bydd y gwaith wedi ei gwblhau erbyn yr haf. Gwenu ddaru Noriko, pan glywodd hi hynny.

Y bore canlynol, roeddwn i yn Ninbych, yng nghwmni'r crefftwr Gwyn Williams, neu Gwyn 'Hafodelwy' fel mae o'n cael ei adnabod. Ac mae'r ffaith fod enw'r tŷ wedi ei gerfio mewn llechen wrth ochor y drws ffrynt yn gliw i'r grefft y mae Gwyn yn gryn giamstar arni.

Mae o'n cerfio englynion, enwau tai a ffermydd, a rhifau mewn llechen i'w gwsmeriaid, a hefyd wedi coffau enw sawl ymadawedig ar gerrig beddau mynwentydd y cylch

Ac i gloi ein sgwrs fe ges i'r pleser o wrando ar wyn yn iodlo, ac fe wn i rŵan at bwy 'roedd Frank Ifield yn mynd am wersi!

Un stori - wrth gefn. A chefn pwy ydi o? Wel yr ateb ydi Aron Howatson.
Cogydd ydi Howard wrth ei alwedigaeth yn y Brwcws ar gyrion Dinbych, ond mae o hefyd wedi troi ei law at gynnig gwasanaeth addurno'r corff efo unrhyw datŵ
o'ch dewis chi.

Côr yn dathlu, Gwyn yn cerfio, Aron yn addurno, a Noriko yn adnewyddu.

Rhai o'r straeon diddorol y des i are eu traws yng Nghlwyd. A 'dwi'n siŵr fod 'na straeon tebyg yn eich ardal chi.

Gadewch i mi wybod, drwy e-bostio
hywel.gwynfryn@bbc.co.uk .


Mwy o’r blog hwn…

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.