Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Tafodiaith Cwmafan a Port Talbot

Categorïau:

Hywel Gwynfryn | 16:47, Dydd Llun, 9 Tachwedd 2009

cwmafan1.jpg

Y bore o'r blaen mi fues i'n wilia ac yn lapan efo rhai o drigolion Cwmafan a Phort Talbot oedd wedi bod yn wilia am oria' (80 awr i gyd) efo Eurof Williams, oedd yn recordio tafodiaith yr ardal ar ran Menter Iaith Nedd Port Talbot.

tafod1.jpg

Fe fydd y sgyrsiau i'w clywed ar raglen Nia fore Mercher rhwng hanner awr wedi deg a deuddeg o'r gloch ar Radio Cymru.

Nôl yn y saithdegau Eurof oedd rheolwr y grŵp pync Cymraeg cyntaf -Y Trwynau Coch. Ac yn yr wythdegau, fo oedd yn gyfrifol am gyflwyno'r grŵp Bando i lwyfannau Cymru.

Un o'r bobol a ddaeth draw oedd Stan Jones. Mae ei gyfraniad i'w gymdeithas a diwylliant y cylch yn fawr.

Treuliodd ddwy flynedd o dan ddaear fel Bevin Boy, ac fe fu'n athro cerdd yn yr ardal gan ysgrifennu llawlyfr ar sut i chwarae'r recorder.

Gyda llaw, yn wahanol i'r Trwynau Coch, fasa Stan Jones ddim yn 'mynd i'r capel mewn Levis' gan ei fod o'n aelod parchus o gapel y Roc, Cwmafan.

stanjones1.jpg

Os 'da chi am gael copi o Gryno Ddisg tafodiaith Cwmafan a Phort Talbot ewch i Tafod.net.

Mwy o’r blog hwn…

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.