Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

FFAGOTS A PHYS YM MARCHNAD CAERFYRDDIN

Categorïau:

Hywel Gwynfryn | 14:26, Dydd Iau, 9 Ebrill 2009

marchnad_caerfyrddin.jpg

Er mai ym Mai, mae'r agoriad swyddogol, 'roedd marchnad newydd Caerfyrddin wedi agor ddydd Mercher, ac erbyn i mi gyrraedd 'roedd hanner Sir Gâr yn crwydro o gwmpas y stondinau.

cig.jpg

Mae teulu Chris Rees wedi bod yn stondinwyr yn y farchnad ers pum cenhedlaeth
ac mae o a'i wraig Ann, yn cynnig pob math o gigoedd ar eu stondin. 'Roedd yr
'hams' yn crogi o'r to yn f'atgoffa fi o dŷ Nain ers talwm, lle byddai cig moch wedi ei halltu yn crogi o nenfwd y gegin, a nhaid yn torri sleisen efo cyllell finiog ar gyfer swper.

cwtch_bach.jpg

Caffi Cwtch ydi enw caffi'r farchnad, ac fel y gwelwch, mi ges ffagots efo grefi pys slwj a chips!

Mwy o’r blog hwn…

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.