Y Casglwyr Cocos
Wedi darllen y bore am ddirgelwch y cocos marw yng Nghilfach Tywyn, ar y ffin rhwng Abertawe a Chaerfyrddin, ac adroddiad a gyhoeddwyd am hynny mi ailafaelais mewn lyfr difyr iawn sy’n rhoi tipyn o le i hanes hel cocos yng Nghymru.
Cyhoeddwyd Pysgotwyr Cymru a’r Môr gan Wasg Carreg Gwalch ychydig cyn y Nadolig, wedi ei olygu gan Robin Evans.
Mae Mr Evans yn taflu ei rwyd yn eang dros ddiwydiant ag iddo hanes cyfoethog a dylanwadol i’w ryfeddu yng Nghymru. Diwydiant sy’n mynd â ni o welyau cocos y de orllewin i fynyddoedd iâ y pysgotwyr morfilod.
Ond heddiw, y casglwyr cocos oedd yn mynd â fy sylw a hanes “merched cocos Gŵyr” yn y llyfr.
Wedi’r hel “ym Mhen-clawdd cai’r cocos eu coginio a’u plisgo mewn ‘ffatrïoedd berwi’ awyr agored cymunedol”.
Yn , Llansaint, wedyn, berwid hwy mewn padell fetel ar dân glo ar dir agored neu yng ngwaelod gardd, ond ni fyddai’r tân yn cyffwrdd gwaelod y badell.
“Ychydig iawn o ddŵr a ychwanegwyd at y cocos oherwydd eu bod yn cynnwys digon o ddŵr yn barod,” meddir.
“Yna, roedd y cocos yn cael eu hidlo tra’n boeth fel bod y gragen a’r cig yn gwahanu cyn eu sgaldio a’u golchi mewn ddwr g;ân. Hidlwyd hwy wedyn, eu golchi a’u berwi am ychydig mewn dwr ychydig yn hallt ac yna eu lledaenu ar blanc o goed i oeri,” meddir.
“Wedi paratoi’r cocos ar gyfer y farchnad byddai’r merched yn cerdded y naw milltir o Ben-clawdd i farchnad Abertawe yn droednoeth gan gludo twb o gocos ar eu pennau. Roedd nant ar gyrion y dref a adwaenid fel Yr Olchfa gan mai yma byddai’r merched yn golchi eu traed cyn gwisgo eu hesgidiau ar gyfer y farchnad. Dyma’r drefn tan i’r rheilffordd gyrraedd Pen-clawdd yn 1863 – adwaenif y trên a adawai Pen-clawdd am Abertawe am saith y bore fel ‘y trên cocos’.”
Yr enw ar y trên a ddychwelai, o Abertawe, yn y pnawn, ar y llaw arall, oedd The Relish “oherwydd byddai’r merched yn dychwelyd efo danteithion o’r farchnad”!
-
Pris Pysgotwyr Cymru a'r Môr ydi £12 ac mae'n werth cael gafael arno.