Gwahodd artistiaid
Mae yr Eisteddfod Genedlaethol yn chwilio am artistiaid a chrefftwyr i ddangos eu gwaith yn arddangosfa agored ‘Y Lle Celf’ yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg fis Awst.
Fel rheol mae’n agos i dair mil o artistiaid yn gwwneud cais am gael ymunoa’r arddangosfa hon.
Wrth estyn gwahoddiad i artistiaid ymgeisio am le eleni disgrifiodd Robyn Tomos, Swyddog Celfyddydau Gweledol y Brifwyl, yr arddangosfa fel “un o binaclau ein calendr diwylliannol” ac yn adlewyrchu’r rhagoriaeth, dyfeisgarwch ac ymroddiad artistiaid.
“Mae hi’n rhan annatod o wead y celfyddydau gweledol. Mae sioe flynyddol yr Eisteddfod Genedlaethol yn dathlu’r gorau o fewn y celfyddydau gweledol yng Nghymru ac mae’r gwaith sy’n cael ei arddangos ynddi’n cael ei ystyried fwyfwy o safon ryngwladol,” meddai.
Y tri fydd yn dewis y gweithiau i’w harddangos fydd; Declan McGonagle, beirniad celf o Iwerddon a Chyfarwyddwr Coleg Cenedlaethol Celf a Dylunio, Dulyn, Sean Edwards, artist a mentor o Gaerdydd, a Laura Thomas, artist cymhwysol a churadur o Urdd Gwneuthurwyr Cymru.
Hwy hefyd fydd yn dyfarnu’r Fedal Aur am Gelfyddyd Gain, Y Fedal Aur am Grefft a Dylunio a’r Ysgoloriaeth Artist Ifanc
Fel rheol mae dros 2,750 o geisiadau yn dod i law i’w hystyried a’r rhai sy’n cael eu dewis yn cael eu gweld gan rhyw 40,000 o ymwelwyr â’r le Celf ar faes yr Eisteddfod.
“Rwy’n edrych ymlaen at gael fy nghyflwyno i waith artistiaid a fydd, ar y cyfan, yn anadnabyddus i mi a gweld sut y maen nhw’n mynegi eu syniadau, defnyddio amrywiol gyfryngau ac ymdrafod â’u synnwyr o amser a lle,” meddai Declan McGonagle sy’n ystyried yr arddangosfa fel lle i ddangos “yr annisgwyl, yr anarferol a’r anhysbys”.
Ychwanegodd bod hwn yn gyfle hefyd i artistiaid nad ydynt yn rhan o’r brif ffrwd iarddangos.
Bydd rhai yn cofio Declan McGonagle yng Nghymru yn 2004 yn helpu dethol gwobr ryngwladol gyntaf erioed Artes Mundi.
“Yng nghyd-destun Cymru, bydd yn ddiddorol gweld sut y mae artistiaid yn ymdrin â materion yn ymwneud â hunaniaeth ddiwylliannol, boed yn drefol neu wledig,” meddai. “Hefyd, sut y maen nhw’n dod i delerau gyda’r gwrthdaro rhwng bywyd traddodiadol a chyfoes a’r gwrthdaro rhwng creu gwrthrychau ac arfer ddigidol neu rith gyfryngol.”
Gwahoddir gweithiau gan rai a aned yng Nghymru, neu ag iddynt rieni o Gymry, neu a fu'n byw neu'n gweithio yng Nghymru am y tair blynedd cyn Awst 4 2012, neu unrhyw berson sy'n siarad neu ysgrifennu Cymraeg.