« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Gwefan Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam

Categorïau:

Elin Dawes Elin Dawes | 14:51, Dydd Gwener, 1 Gorffennaf 2011

Gyda mis yn unig i fynd tan yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam, rydyn ni'n edrych ymlaen at yr ŵyl ar wefan Eisteddfod Genedlaethol BBC Cymru. Yn ogystal â chanllaw, mae gwybodaeth am leoliadau'r Maes, y maes carafanau a Maes C a gwybodaeth am arlwy'r nos, gigs Maes B a Chymdeithas yr Iaith. Byddwn yn cyhoeddi map o'r prif leoliadau hyn a thaith y bws wennol ar y wefan ddiwedd fis Gorffennaf.

 

Yn ystod wythnos gyntaf mis Awst, dyma'r lle i ddod i wylio'r holl gystadlu'n fyw o'r Pafiliwn, i weld y canlyniadau'n llawn gydol yr wythnos a gwylio clipiau fideo o'r enillwyr yn ogysal â darllen y straeon o'r Maes a'r newyddion diweddaraf.

 

Gallwch hefyd ein dilyn ar Twitter - mwy o fanylion yn fuan. 

 

Am y diweddaraf, ewch i wefan Eisteddfod Genedlaethol BBC Cymru.

 

 

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.