Pump y Gân
Mae cynrychiolydd Cymru ymhlith y pump olaf a fydd yn cystadlu am wobr Cystadleuaeth y Gân, Canwr y Byd Caerdydd, 2009, nos Wener.
Natalya Romaniw yw'r ieuengaf o'r pum canwr i fynd drwodd a hi hefyd yw'r unig ferch.
Y pump yw:
- Jan Martiník, Y Weriniaeth Siec
- Javier Arrey, Chile
- Tomislav Lučić, Croatia
- Yuriy Mynenko, Wcráin
- Natalya Romaniw, Cymru