Gafaelai enillydd y Fedal Ryddiaith a'r Archdderwydd yn llaw ei gilydd wrth i'r Orsedd orymdeithio ar hyd y maes wedi seremoni'r Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam.
Estynnodd y ddau eu dwylo at ei gilydd a chydio'n dyn wedi seremoni emosiynol ar lwyfan y Brifwyl a hanes yn cael ei greu wrth i archdderwydd urddo ei wraig ei â phrif wobr ryddiaith yr Ŵyl am y tro cyntaf erioed.
Dyfarnwyd nofel Manon Rhys yn orau y gystadleuaeth gan y tri beirniad ac yn deilwng o'r fedal gan ddwy ohonynt.
Anghytunai Grahame Davies a draddododd y feirniadaeth.
Y nofel
Mewn cynhadledd i'r Wasg wedyn eglurodd Manon Rhys, sydd yn un o'n llenorion mwyaf llwyddiannus, arwyddocâd teitl y gwaith a enillodd iddi'r fedal a'i gysylltiad â Chwm Rhyd y Rhosyn ar record Dafydd Iwan:
"Mae Cwm Rhyd y Rhosyn yn bwysig iawn a Dewi'r cymeriad yn ffan mawr iawn [ohono]," meddai.
"Roedd fy mhlant i wrth eu bodd gyda Cwm Rhyd y Rhosyn a'u plant nhw erbyn hyn.
"Mae Cwm Rhyd y Rhosyn yn lle delfrydol, diogel, saff, hapus, popeth yn hyfryd . . . mae Dewi yn uniaethu efo'r syniad. Mae'n hoffi meddwl ei fod 'mor hapus ac mor hardd a'r haul' sydd ar y record.
"Mae teitl y nofel yn dod o un o'r caneuon ar y record, A neb yn gwybod dim am hyn, neb ond ni ein dau a'r ddau yw Dewi a Siriol.
"Wrth gwrs dyw y byd go iawn ddim or hardd, cysurus a saff a Chwm Rhyd y Rhosyn.
"Efallai bod y gân wedi bod yn ysgodiad. Roeddwn i'n ffeindio fy hun yn canu'r gân trwy'r amser," meddai Manon Rhys.

Cyfres o ymrysonau person cyntaf yw'r nofel yn cyfleu hanes Dewi a Siriol sydd mewn cartref i blant ag anghenion arbennig yn yr Wythdegau.
Dywedodd Manon Rhys bod y gair "arbennig" o bwys mawr iddi yn y cyswllt hwn.
Ond er yn ddisgrifiad ymddangosiadol syber o'r nofel dywedodd Manon Rhys bod llawer i ennyn chwerthin yn y nofel hefyd."
'Taro unarddeg
Dau o'r tri beirniad oedd am wobrwyo y nofel neb ond ni.
Er yn cydnabod mai dyma waith cryfaf a gorau y gystadleuaeth dywedodd Grahame Davies yn ei feirniadaeth ysgrifenedig a fydd yn ymddangos yn y Cyfansoddiadau ddydd Gwener mai taro unardeg yn unig wnâi'r ymgais hon yn hytrach na deuddeg gan feirniadu'r gwaith o fod heb ddigon o fachyn naratif a'r diweddglo o fod rhy ddryslyd.
Wrth gloi ei feirniadaeth dywed, yn ddigon cignoeth mewn gwirionedd:
"Yn neb ond ni cwyna Siriol am gael ei gor-ganmol am bethau yn yr ysgol a hithau gwybod nad yw hi, mewn gwirionedd, wedi llwyddo.
"Dyma'r peryg' o beidio mynnu llwyr wireddu potensial: gall priodoli llwyddiant cynamserol i'r anghyflawn lesteirio cyrhaeddiad llawn. Wel doedd hynny ddim yn ddigon da i Siriol, a dyw hi ddim yn ddigon da i lenyddiaeth Gymraeg chwaith.
"Er mai neb ond ni yw gwaith cryfa'r gystadleuaeth yn ddiau, ni chefais fy argyhoeddi'n llwyr.
"Serch hynny, fe'm harbedwyd rhag goblygiadau llawn y cyfyng gyngor beirniadol hwn, gan y ffaith fod fy nghydfeirniaid yn fodlon fod Sitting Bull [ffugenw Manon Rhys] yn haeddu'r wobr. Parchaf eu penderfyniad a dymunaf bob llwyddiant i'r awdur dawnus hwn," meddai.
Y ddau feirniad arall oedd, Branwen Jarvis a Hazel Walford Davies.
Blogiau BBC Cymru
Blog Cylchgrawn:

Nia Lloyd Jones - dydd Sadwrn Awst 11
Doeddwn i ddim yn gweithio gefn llwyfan tan hanner dydd a'r gystadleuaeth gyntaf ar ...